Skip to content

Gweithgaredd

Cofnodwr data symudiad

Canolradd | MakeCode | Botymau, Dangosydd LED, Logio data, Mesurydd cyflymiad | Gweithio'n wyddonol, Mesuriad, Rhesymeg Boolean, Synwyryddion, Trafod data, Trafod gwybodaeth, Ystadegau a graffiau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddiwch gofnodi data gyda'ch BBC micro:bit V2 i gasglu darlleniadau mesurydd cyflymu i helpu i ddylunio traciwr ffitrwydd personol.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit V2
  • cyfrifiadur a chebl USB meicro ar gyfer codio'r micro:bit a gweld eich data
  • pecyn batri micro:bit
  • efallai y bydd ein canllaw cofnodi data yn ddefnyddiol

Casglu data

  • Trosglwyddwch y cod isod i'ch micro:bit, yna datgysylltwch e o'ch cyfrifiadur.
  • Cysylltwch becyn batri a chysylltwch y micro:bit i'ch esgid neu'ch coes.
  • Mae data blaenorol yn cael eu dileu pan fyddwch yn trosglwyddo cod newydd i'ch micro:bit, ond gallwch hefyd ddileu hen ddata trwy bwyso'r botymau A a B gyda'i gilydd.
  • Pwyswch y botwm A i ddechrau cofnodi data. Mae tic yn ymddangos ar y sgrîn. Mae bellach yn cofnodi data mesurydd cyflymu ddeg gwaith bob eiliad.
  • Dechreuwch gerdded a chyfrwch faint o gamau rydych chi'n eu cymryd - rhowch gynnig ar ddeg i ddechrau.
  • Yn yr achos annhebygol iawn y bydd log micro:bit yn llawn, bydd yr holl oleuadau ar y sgrîn LED yn goleuo.
  • Pwyswch y botwm B i stopio cofnodi. Dylech weld X yn ymddangos i ddangos ei fod wedi stopio.

Dadansoddwch eich data

  • Datgysylltwch y pecyn batri a phlygiwch y micro:bit i mewn i gyfrifiadur.
  • Mae'r micro:bit yn ymddangos fel gyriant USB o'r enw MICROBIT. Edrychwch yno ac agorwch y ffeil MY_DATA i weld tabl o'ch data a rhagolwg gweledol yn eich porwr gwe:
Y gyriant MICROBIT fel y mae'n ymddangos yn Windows
Y ffeil MY_DATA fel y mae'n ymddangos pan fyddwch chi'n ei hagor mewn porwr gwe
  • Mae data o'r mesurydd cyflymu wedi'i gofnodi mewn tri dimensiwn:
diagram yn dangos echelinau x, y a z y mesurydd cyflymu micro:bit
  • Cliciwch ar rhagolwg gweledol i weld y data fel graff. Archwiliwch e i weld a allwch chi weld lle cymerodd y defnyddiwr ddeg cam:
Graff yn dangos data mesurydd cyflymu mewn 3 dimensiwn gyda 10 brig

Defnyddiwch eich data

Wrth astudio'r data hyn gallwch weld bron bob tro y cymerwyd cam, roedd y darlleniad yn yr echelin Z yn uwch na 500.

Felly gyda'r set ddata hon, efallai y byddwn yn defnyddio'r rhif 500 fel y trothwy i'w ddefnyddio yn y prosiectCyfrifwr camau sensitif, gan addasu'r bloc 'cryfder (mg) cyflymiad' i ddarllen 'cyflymiad (mg) z > 500'.

Mae hyn yn golygu eich bod chi wedi casglu data sy'n unigryw i'r ffordd rydych chi'n cerdded, a'u defnyddio i wneud cynnyrch digidol personol sy'n gweithio'n well i chi.

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Gallech chi ddefnyddio'r cofnodwr data symud i gymharu gwahanol barasiwtiau a sut maen nhw'n effeithio ar gyflymiad micro:bit wrth iddo ddisgyn.
  • Copïwch a gludwch y data i mewn i daenlen i'w dadansoddi mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft gan ddefnyddio offer ystadegol.
  • Defnyddiwch daenlen i ddelweddu'r data mewn ffyrdd eraill a gwnewch gyflwyniad am eich prosiect.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.