LEDs a botymau
Dechrau dysgu amfewnbynnau ac allbynnau gyda LEDs a botymau eich BBC micro:bit
Bydd y setiau hyn o brosiectau a fideos yn dangos i chi sut i raglennu'r LEDs ac yn eich cyflwyno i rai o nodweddion eraill y micro:bit.
Mae pob set o brosiectau wedi'u cynllunio i gynyddu'ch dealltwriaeth a'ch hyder yn raddol, fel y gallwch weithio drwyddynt i gyd neu ddewis un i ddechrau arni!
Set 1: Eiconau ac anifeiliaid
Wrth ddilyn y gyfres hon o brosiectau, byddwch yn dysgu sut i greu gwahanol ddelweddau ar LEDs y micro:bit drwy gyfarwyddiadau olynol a defnyddio'r botymau. Wedyn, byddwch yn dod â'ch creadigaethau'n fyw gan ddefnyddio animeiddiadau a dolennau.
Set 2: Bathodyn emosiynau
Dilynwch y dilyniant hwn o brosiectau i greu bathodyn emosiwn gan ddefnyddio'r LEDs, botymau a mesurydd cyflymiad i roi gwybod i eraill sut rydych yn teimlo. Yn gyntaf, byddwch yn rhaglennu'ch micro:bit i ddangos wynebau hapus a thrist cyn gwneud iddynt fflachio ac wedyn dangos mwy o emosiynau pan fydd eich micro:bit yn cael ei ysgwyd.
Set 3: Heulwen
Yn y dilyniant hwn o brosiectau, byddwch yn creu eiconau haul syml gan ddefnyddio’r LEDs ar eich micro:bit, gan greu dilyniannau i wneud i'r haul ‘ddisgleirio’ ac wedyn rhaglennu eich dyfais synhwyro heulwen eich hun.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.