Skip to content

Gweithgaredd

Thermomedr Fahrenheit

Canolradd | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Synhwyrydd tymheredd | Mesuriad, Mewnbwn/allbwn, Swyddogaethau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio swyddogaeth syml i drosi darlleniadau canradd o synhwyrydd tymheredd y micro:bit yn Fahrenheit.

Sut mae'n gweithio

  • Mae gan brosesydd y micro:bit fewnbwn synhwyrydd tymheredd parod sy'n rhoi darlleniadau mewn canradd.
  • Mae defnyddio swyddogaethau'n eich galluogi i drosi'r tymheredd yn Fahrenheit yn hawdd.
  • Mae'r swyddogaeth convertCtoF yn golygu eich bod yn gallu ailddefnyddio'r cod trosi'n hawdd, er enghraifft mewn thermomedr uchafswm-lleiafswm.
  • Gelwir y swyddogaeth drwy ddefnyddio convertCtoF yn lle newidyn neu rif pan fyddwch yn gwasgu botwm B ar eich micro:bit.
  • Rydym yn trosglwyddo i'r swyddogaeth y tymheredd mewn canradd.
  • Wedyn, mae'r swyddogaeth yn cymryd y rhif a drosglwyddwyd iddo, wedi'i gadw mewn newidyn a elwir yn C, a'i drosi yn Fahrenheit drwy ei luosi ag 1.8 ac ychwanegu 32.
  • Wedyn, mae'r swyddogaeth yn dychwelyd y rhif wedi'i drosi er mwyn dangos y tymheredd mewn Fahrenheit ar allbwn y dangosydd LED pan fyddwch yn gwasgu botwm B.
  • Os byddwch yn gwasgu botwm A, dangosir y tymheredd mewn canradd.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3def convertCtoF(C):
4    return C * 1.8 + 32
5
6while True:
7    if button_a.was_pressed():
8        display.scroll(temperature())
9    if button_b.was_pressed():
10        display.scroll(convertCtoF(temperature()))

Cam 3: Gwella

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.