Skip to content

Gweithgaredd

Gêm ymateb

Uwch | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Pinnau | Corff dynol, Dylunio cynnyrch, Electroneg, Iteriad, Mewnbwn/allbwn, Rhesymeg Boolean, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud gêm ymateb gyda switshis corfforol go iawn y gallwch eu bwrw mor galed ag yr hoffech!

dau switsh gwasgedd a wnaed gartref wedi'u cysylltu â phinnau micro:bit

Sut mae'n gweithio

  • Gwneud dau switsh mewnbwn corfforol gan ddefnyddio cardfwrdd a ffoil tun – yn debyg i'r rhai a ddefnyddiwyd yn y Prosiect larwm switsh gwasgedd.
  • Cysylltu'r switshys â phinnau'r micro:bit fel yn y llun – mae un pad ffoil tun ar bob switsh yn mynd i bin GND y micro:bit, a'r llall yn cael ei gysylltu â phin 1 neu bin 2, gan ddibynnu ar a ydych yn chwaraewr A neu chwaraewr B.
  • Mae'r rhaglen yn aros am amser ar hap rhwng 1 a 5 eiliad, ac wedyn bydd yn dangos calon ar allbwn y dangosydd LED.
  • Ni allwch wasgu'ch botwm cyn iddo oleuo gan ei fod yn defnyddio rhesymeg Booleaidd i atal unrhyw un rhag twyllo! Dau werth yn unig y gall fod gan newidynnau Booleaidd: Gwir neu Gau. Mae'r newidyn cychwynnwyd y gêm yn atal y naill chwaraewr neu'r llall rhag gwasgu eu botwm yn rhy gynnar drwy wirio pa fotwm sydd wedi'i wasgu tra bod y gêm wedi dechrau.
  • Mae dolen ddiderfyn yn sicrhau bod y gêm yn parhau i redeg er mwyn i chi barhau i chwarae.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 1 micro:bit
  • 4 cebl clip crocodeil
  • Ychydig o gardfwrdd sgrap, ffoil tun, glud a siswrn

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3
4while True:
5    gameStarted = False
6    sleep(random.randint(1000, 5000))
7    gameStarted = True
8    display.show(Image.HEART)
9    while gameStarted:
10        if pin1.is_touched():
11            display.show('A')
12            gameStarted = False
13        elif pin2.is_touched():
14            display.show('B')
15            gameStarted = False
16    sleep(3000)
17    display.clear()
18

Cam 3: Gwella

  • Defnyddio newidynnau i gadw llygad ar sgôr pob chwaraewr
  • Ychwanegu amserydd i ddangos pa mor gyflym oedd ymateb pob enillydd
  • Olrhain pa chwaraewr sydd â'r amser ymateb cyflymaf
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.