Skip to content

Gweithgaredd

Paent Scratch

Dechreuwr | Scratch | Botymau, Mesurydd cyflymiad | Dewis, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio eich micro:bit i reoli rhaglen tynnu llun Scratch.

Cath Scratch yn dal pensil dros enfys

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i arwain corlun y pensil o gwmpas y sgrin, gan dynnu llinell wrth iddo symud.
  • Bydd gwyro'r micro:bit i'r chwith neu'r dde yn gwneud i'r pen symud i'r chwith neu'r dde ar yr echelin X, ar draws y sgrin.
  • Bydd gwyro'r micro:bit ymlaen neu'n ôl yn gwneud i'r pen symud i fyny ac i lawr, ar yr echelin Y.
  • Os byddwch yn ei wyro'n groeslinol, cewch linellau croes.
  • Gallwch reoli trwch llinellau'r pen gyda botymau mewnbwn A a B y micro:bit.
  • Ei ysgwyd i ddefnyddio mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit i godi a gostwng y pen, er mwyn symud o gwmpas heb wneud marc.
  • Mae'r rhaglen yn olrhain statws y pen (a yw wedi'i godi neu'i ostwng) gan ddefnyddio newidyn a elwir yn penUp. Mae'n dangos gwahanol eiconau ar allbwn dangosydd y micro:bit er mwyn i chi wybod a yw'r pen wedi'i godi neu'i ostwng.
llun enghreifftiol

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit.
  • pecyn batri opsiynol

Cam 2: Codio

Blociau cod Scratch ar gyfer y corlun pensil

Blociau cod ar gyfer y corlun pensil

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegu ffordd o reoli pan fydd y lliw yn newid.
  • Addasu'r rhaglen fel bod ysgwyd neu 'neidio'r' micro:bit yn clirio'r sgrin.
  • Dangos trwch y pen ar ddangosydd y micro:bit.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.